Cyflwyniad y Siarter Iaith

Mae ERW newydd gyflogi Rhodri Siôn fel Cydlynydd Siarter Iaith.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau cael un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y nod hwn mae’n bwysig sicrhau bod gan blant o bob oedran gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith mewn amryw o gyd-destunau cymdeithasol.  

Nod syml y Siarter Iaith yw arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg.

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter, ac yn eu geiriau nhw, ‘Mewn gair, ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau’ yw’r nod.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd pob ysgol Gymraeg yn ERW yn cael cyfle i ennill gwobr efydd, arian ac aur. Mae hyn yn dibynnu ar faint o Gymraeg maen nhw’n ei siarad o ddydd i ddydd - mewn sefyllfaoedd amrywiol yn yr ysgol a’r gymuned.

Mae’r Siarter Iaith yn gyfle i bawb yng nghymuned yr ysgol chwarae eu rhan wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg - cyngor yr ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn o’r iaith.

Dywedodd Rhodri Siôn “Wrth lansio’r Siarter Iaith yn ysgolion cynradd Cymraeg ERW hoffem ddiolch a chydnabod gweledigaeth a gwaith arloesol Cyngor Gwynedd wrth sefydlu a datblygu’r Siarter Iaith. Ar hyn o bryd mae Siarter Iaith ar waith mewn nifer fawr o'n siroedd a'n hysgolion, a'r bwriad yw ei ledaenu i bod ysgol a sir o fewn y flwyddyn academaidd nesaf. Yn ein hysgolion Cymraeg dylai pob athro ac arweinydd geisio manteisio ar bob cyfle i werthfawrogi a hyrwyddo diwylliant Cymru a chynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Mae’n fraint cael cyflwyno'r siarter yn ffurfiol i chi ac mae ei hamcan o ysbrydoli ein plant a phobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau yn un pwysig a thyngedfennol. Hyderaf y bydd lliwiau efydd, arian ac aur y siarter hon yn fodd i gyfrannu at ddyfodol ein hiaith. Felly gofynnaf ar bawb i feddwl am y Gymraeg NID fel pwnc yn unig ond fel iaith ganolog lle bydd disgyblion yn siarad Cymraeg ac yn ennyn balchder yn eu Cymreictod, eu treftadaeth a'u diwylliant.”

Local Authorites Swansea-Abertawe Neath Port Talbot - Castell Nedd Port-Talbot Ceredigion Carmarthenshire - Sir Gaerfyrddin Pembrokeshire-Sir Benfro Powys

Mae ERW yn gynghrair o 6 awdurdod lleol sy’n cael ei rheoli gan gyd-bwyllgor a gyfansoddwyd yn gyfreithiol. Ei nod yw gweithredu’r strategaeth ranbarthol a’r cynllun busnes a gytunwyd i gefnogi gwella ysgolion.