Newidiadau i'r Cwricwlwm 2017 - Goblygiadau i Ddysgwyr

Mae Cyfarwyddwyr Addysg a Rheolwyr Gyfarwyddwyr Consortia wedi bod yn gweithio'n agos i gefnogi taith ddiwygio Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys amrywiol newidiadau a fydd yn arwain at ysgolion yn cymryd rôl llawer mwy canolog wrth gynllunio a chyflwyno polisi addysg cenedlaethol. Caiff y diwygiadau cwricwlaidd a ragflaenwyd gan adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Donaldson eu rhoi ar waith dros y pedair blynedd nesaf lle bydd yr hyn a addysgir mewn ysgolion yn newid yn ogystal â'r ffordd y caiff disgyblion eu haddysgu. Mae hefyd yn debygol y bydd rhagor o amrywiadau i'r Model Cenedlaethol ar gyfer Gwella Ysgolion a fydd yn ystyried newidiadau posib i'r fframweithiau atebolrwydd ac asesu.

 Mae ysgolion a dysgwyr eisoes yn dechrau profi a rheoli cyfres o newidiadau eleni. Yn ystod haf 2017, bydd disgyblion yn sefyll arholiad TGAU Saesneg a Chymraeg (mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg) ynghyd ag arholiadau TGAU Mathemateg a Rhifedd gyda gradd Mathemateg neu Rifedd orau disgyblion yn cyfrif tuag at y dangosydd cynhwysol Lefel 2 (5 A*-C, gan gynnwys Iaith a Mathemateg/Rhifedd). Yn flaenorol, roedd graddau TGAU llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg yn cyfrif tuag at yr elfen hon o'r dangosydd gydag un TGAU Mathemateg yn unig. Mae'r cymwysterau TGAU Mathemateg a Rhifedd newydd yn wahanol iawn i'r cymwysterau TGAU Mathemateg blaenorol - ac i'w gilydd hefyd - gyda'r ddau yn asesu cynnwys a sgiliau gwahanol. Diben y cymwysterau newydd hyn yw asesu gallu disgyblion i ddatrys problemau yn ogystal â'u gwybodaeth am bwnc.

 Gan mai hon yw'r flwyddyn gyntaf y defnyddir yr arholiadau hyn, ysgrifennodd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC), y corff sy'n gosod yr arholiadau, i bob ysgol ym mis Tachwedd 2016 i dynnu sylw at rai o'r canlyniadau maent yn disgwyl eu gweld a allai gynnwys mwy o amrywioldeb yng nghanlyniadau ysgolion a cholegau wrth iddynt "addasu'n wahanol i ofynion y cymwysterau newydd". Er ei fod yn debygol y bydd canlyniadau cenedlaethol yn aros yn eithaf sefydlog ar y cyfan, efallai na welir hyn mewn ysgolion neu awdurdodau lleol. Yn ogystal â hyn, mae CBAC yn disgwyl y bydd cyfran gyffredinol y myfyrwyr sy'n ennill gradd C neu uwch yn y ddau gymhwyster TGAU Mathemateg yn llai na chanran yr ymgeiswyr a fydd yn derbyn gradd C neu uwch yn y cymwysterau hyn yn unigol.

 Mae awdurdodau lleol eisoes yn siarad â dosbarthiadau'r chweched a sefydliadau addysg bellach yn eu hardaloedd i sicrhau y defnyddir ymagwedd gyson eleni o ystyried y potensial am amrywioldeb a allai olygu na fydd rhai disgyblion, a allai fod wedi cyflawni'r graddau gofynnol ar gyfer mynediad i gwrs mewn blynyddoedd blaenorol, yn perfformio cystal eleni. O ganlyniad i'r newidiadau sylweddol sydd ar waith, mae peth posibilrwydd y bydd hyn yn digwydd ac rydym ni, ynghyd â dosbarthiadau'r chweched a sefydliadau addysg bellach, yn awyddus i sicrhau na fydd unrhyw ddisgybl dan anfantais annheg.

 Un o oblygiadau pwysig eraill y newidiadau hyn yw gan mai arholiadau newydd yw'r rhain sy'n edrych ar sgiliau a gwybodaeth gwahanol i'r arholiadau blaenorol, ni ellir cymharu canlyniadau eleni'n deg â chanlyniadau'r llynedd. I bob pwrpas, canlyniadau eleni fydd ein gwaelodlin newydd at ddibenion cymharu ac ni fydd data tueddiadau ar gael mewn ffordd arwyddocaol nes 2019. Mae AALl a chonsortia rhanbarthol eisoes yn gweithio gydag ysgolion i olrhain perfformiad disgyblion dros amser a fydd yn golygu bydd arweinwyr ysgolion ac AALl mewn sefyllfa i fesur lle mae ysgolion yn gwneud cynnydd da neu lle gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt.

Mae ein holl ysgolion a'n dysgwyr yn gweithio'n galed iawn i gyflawni'r deilliannau gorau posib yn yr arholiadau sydd ar ddod ac rydym yn edrych ymlaen at ddathlu eu llwyddiannau.

Local Authorites Swansea-Abertawe Neath Port Talbot - Castell Nedd Port-Talbot Ceredigion Carmarthenshire - Sir Gaerfyrddin Pembrokeshire-Sir Benfro Powys

Mae ERW yn gynghrair o 6 awdurdod lleol sy’n cael ei rheoli gan gyd-bwyllgor a gyfansoddwyd yn gyfreithiol. Ei nod yw gweithredu’r strategaeth ranbarthol a’r cynllun busnes a gytunwyd i gefnogi gwella ysgolion.